top of page
ZCOhdAzofzAvJQR02WF53bj3egI
Slider

CROESO

Canolfan gymunedol sydd yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr . Mae yn elusen gofrestredig, yn cael ei rhedeg ar sail nid-er-elw, ar ran cymuned ardal Biwmares a’r cylch.

HANES

Roedd y Ganolfan gynt yn neuadd blwyf eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas. Fe'i hailadeiladwyd ac adnewyddu yn llwyr o dan drefniant prydlesu i gorff ymddiriedolwyr newydd, a ffurfiwyd yn 2003. Cafodd y ganolfan ei hailenw “Canolfan Iorweth Rowlands” ar ôl y diweddar Iorwerth Rowlands, Cynghorydd Sir a wnaeth neilltuo llawer o ymdrech i'r prosiect hwn. Mae'n elusen gofrestredig (Canolfan Ieuenctid a Chymuned Biwmares Reg. Charity No.1071952) yn gwasanaethu'r gymuned gyfan.

 

Ers y gwaith adnewyddu mae dau brosiect llwyddiannus iawn yn rhedeg yn y Ganolfan a ariennir gan y Loteri Fawr. Maent wedi bod o fudd mawr i'r gymuned. Sefydlodd y prosiect cyntaf y ganolfan yn gadarn yng nghalon y gymuned ac i fod yn sylfaen ar gyfer pobl di-waith i gael gafael ar raglenni gwaith a hyfforddiant.

 

Hefyd mae yn darparu cyrsiau ar gyfer pobl o bob oed er engraifft dosbarthiadau Technoleg Gwybodaeth o ddechreuwyr i lefel uwch, dosbarthiadau Hanes Lleol a dosbarthiadau Cymraeg. Roedd cymorth a gwybodaeth ar gael gan sefydliadau fel “Cyngor at Bopeth”, “Age Cymru” a “Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr Gogledd Orllewin Cymru”. Dechreuwyd clybiau a gweithgareddau newydd ar gyfer pobl o bob oed, yn cynnwys Clwb Ieuenctid newydd, Clwb Rhieni a Phlant Bach a Chlwb 50au Biwmares .

 

Roedd gan yr ail brosiect, Prosiect Cymunedol Iorweth Rowlands dri llinyn. Roedd y rhain yn mynd a cyfleoedd chwaraeon i blant yn yr ysgolion cynradd, dechrau digwyddiadau gwybodaeth lleol ac arwyddbostio ar gyfer aelodau o'r gymuned, a gweithio ar y cyd â sefydliadau eraill i ddechrau mwy o gyfleoedd i wirfoddoli. Strategaeth ymadael y prosiect hwn oedd i'r Ganolfan gael ei rhedeg gan wirfoddolwyr ar ddiwedd y pedair blynedd

4Ox8PK2x_sic9m3BDv-dTlABd_U

MWY GWYBODAETH

cjX45Ex_M6T8PrqJGnVLEB6fA00

|

DEWIS IAITH:

LLEOLIAD

xnbLsSxvEQTVPjbtUUQ8IZa7M9I

CYSYLLTU

biHJieOCn618rRkbyhfzH8MycWk

Canolfan Iorwerth Rowlands Centre

Steeple Lane,

Biwmares,

Ynys Môn,

LL58 8AE

 

T: 01248 811 508

E: canior@btconnect.com

 

Dilynwch ni:

 

Amser Agor:

9.00am - 5.00pm Llun-Gwener

Derbynnir archebiadau ystafelloeddd am y dydd a gyda’r nos, yn yr wythnos a’r penwythnos

Facebook circle white large

CANOLFAN IORWERTH

T: 01248 811 508 / E: canior@btconnect.com /

ROWLANDS CENTRE

- Steeple Lane, Biwmares, Ynys Môn, Gogledd Cymru -

Facebook circle white small

The cost of designing this website has been generously funded from the social community scheme of MAGNOX WYLFA, Anglesey.

Designed by OvernightSite.

Contact
What's-On
Room-Hire
qiq-RmKLnfvaAATESu_V0AXUmWw
fhEp_6WT5ssPA7Zfoj1bG3CnOs8
OvBKtPElpGTB7MiIsmccEnRYdJQ
UK-Flag
Welsh-Flag
bottom of page